top of page
Wales Background .png
SeiberLarwm yr Heddlu

Helpu'ch busnes i fonitro ac adrodd am y gweithgaredd maleisus rydych chi'n ei wynebu o'r Rhyngrwyd.

Fel busnes yng Nghymru, rydych chi'n gymwys i gofrestru ar gyfer CyberAlarm yr Heddlu am ddim.

Police CyberAlarm Cyber Resilience Centr
Beth yw'r manteision i'm busnes?

Adroddiadau Rheolaidd

​

Yn nodi gweithgarwch maleisus/ymosodiadau posibl a ddarganfyddir ar eich wal dân/porth i'r rhyngrwyd. Gallwch ddefnyddio'r adroddiadau hyn i ymchwilio ymhellach a diogelu eich busnes yn well.  

iconfinder_Operation_risk_trouble_684309

Nodi gwendidau eich busnes

​

Yn sganio gwefan eich busnes a chyfeiriadau IP allanol am wendidau hysbys. Gall yr adroddiadau rheolaidd hyn eich helpu i ddiogelu eich busnes rhag gweithgarwch y gwyddys ei fod yn amheus.

Intelligence icon.png

Gwybodaeth a chudd-wybodaeth busnes

​

Defnyddir data i roi manylion am y bygythiadau diweddaraf a ddarganfyddir, gan olygu y gall eich busnes ddiweddaru ei fesurau diogelwch.  

Lock.png

Helpu'r heddlu i'ch helpu chi 

​

Mae'r heddlu hefyd yn defnyddio data i nodi bygythiadau presennol, cymryd camau gorfodi yn erbyn seiberdroseddwyr a helpu eich busnes i baratoi a diogelu ei hun yn well. 

​Beth yw Police CyberAlarm? 

​

Adnodd am ddim yw Police CyberAlarm i helpu eich busnes i ddeall a monitro gweithgarwch seiber maleisus. Mae Police CyberAlarm yn gweithredu fel “camera teledu cylch cyfyng” sy'n monitro'r traffig a welir drwy gysylltiad aelod â'r rhyngrwyd. Bydd yn canfod gweithgarwch yr amheuir ei fod yn faleisus ac yn rhoi adroddiadau rheolaidd arno, gan alluogi sefydliadau i leihau eu gwendidau i'r eithaf.

 

Gellir ychwanegu adnodd Sganio Gwendidau hefyd a'i ddefnyddio i sganio gwefan sefydliad a'i gyfeiriadau IP allanol.

 

Fel busnes yng Nghymru, rydych yn gymwys i gofrestru ar gyfer Police CyberAlarm am ddim.

Police CyberAlarm Cyber Resilience Centre for Wales

Sut mae Police CyberAlarm yn gweithio?

Police CyberAlarm Cyber Resilience Centre for Wales

​

Unwaith y byddwch yn aelod o Police CyberAlarm, gallwch osod ‘Gweinydd Rhithwir CyberAlarm’ ar eich system a fydd yn casglu ac yn prosesu logiau traffig sy'n nodi gweithgarwch amheus ar eich wal dân/porth i'r rhyngrwyd.   

 

System fonitro yw Police CyberAlarm ac nid yw'n ymyrryd â gweithrediadau arferol y rhwydwaith. Darn bach o gyfarpar rhithwir ydyw sy'n gweithredu y tu allan i'r rhwydwaith. Nid yw'n achosi unrhyw oedi i'r traffig sy'n mynd drwy'r porth a dim ond un clic sydd ei angen i'w osod.   

 

Defnyddir y data a gesglir i lunio adroddiadau rheolaidd ar weithgarwch amheus neu weithgarwch maleisus posibl a welir gan eich busnes, yn ogystal ag adroddiadau sy'n nodi tueddiadau o ran bygythiadau a welir ar draws y rhwydwaith o aelodau Police CyberAlarm. Gall eich busnes ddefnyddio'r gudd-wybodaeth hon i ddiweddaru ei fesurau amddiffyn er mwyn ei ddiogelu'n well rhag bygythiadau seiber.  

 

Defnyddir y data hyn hefyd gan yr Heddlu i werthuso ac olrhain tueddiadau o ran seiberdroseddau, a chymryd camau gorfodi lle y bo'n briodol.  

A yw'n casglu unrhyw ddata personol?

​

​Nac ydy. Ni chaiff cynnwys y traffig ei gasglu gan y system. Nod y system yw diogelu data personol, cyfrinachau yn y maes ac eiddo deallusol.  

Ble y gallaf gofrestru?  

Cofrestrwch Heddiw 

Os hoffech fod yn rhan o Police CyberAlarm neu gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael diweddariadau ac adroddiadau diogelwch rheolaidd i'ch helpu i feithrin dealltwriaeth well o fygythiadau presennol, gallwch gofrestru ar wefan Police CyberAlarm. 

Gwnewch gais am alwad ffôn i drafod 

Os hoffech ddysgu mwy am Police CyberAlarm, anfonwch neges newydd ar ein tudalen ‘Cysylltu â Ni’ a bydd aelod o'n tîm yn cysylltu â chi.

System yr heddlu yw Police CyberAlarm, a chaiff yr holl ddata a gesglir eu casglu gan yr heddlu, nid y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru.  

bottom of page