top of page

Gall unrhyw un fod yn darged i Seiberdroseddu.

Os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl neu risg uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 nawr.

Rhoi gwybod am ymosodiad seiber byw 24/7

​

Os ydych yn fusnes, elusen neu'n sefydliad arall sy'n dioddef ymosodiad seiber byw ar hyn o bryd (yn mynd rhagddo), ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 ar unwaith. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Action Fraud_3.png

Rhoi gwybod am ymosodiad seiber nad yw'n mynd rhagddo

​

Rhowch wybod ar-lein i Action Fraud, canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am achosion o dwyll a seiberdroseddu. Gallwch roi gwybod am seiberdroseddu ar-lein ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio'r adnodd rhoi gwybod ar-lein, a fydd yn eich tywys drwy gwestiynau syml i nodi beth sydd wedi digwydd. Gall cynghorwyr Action Fraud hefyd darparu'r cymorth, y gefnogaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnoch.

Fel arall, gallwch ffonio Action Fraud ar 0300 123 2040 (ffôn testun 0300 123 2050).

​

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am achos o dwyll i Action Fraud, cewch rif cyfeirnod trosedd yr heddlu a chaiff eich achos ei atgyfeirio at y Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol (NFIB), sy'n cael ei rhedeg gan yr heddlu.

​

Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd yr heddlu ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill yn cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion, felly mae'n bwysig eich bod yn darparu'r manylion cyswllt cywir ac yn cadw unrhyw wybodaeth berthnasol am y drosedd.

​

Er na all yr heddlu ymchwilio i bob adroddiad yn unigol, bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn ei helpu. Mae'r heddlu'n defnyddio eich gwybodaeth i gasglu cudd-wybodaeth am seiberdroseddu, sy'n cynnwys pwy sy'n cyflawni pa droseddau ac yn erbyn pwy. Mae hyn yn cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod y DU yn rhywle annymunol i seiberdroseddwyr weithredu ynddo ac mae'n helpu i gadw dioddefwyr posibl eraill yn ddiogel.

​

Pan fyddwch yn rhoi gwybod am dwyll i Action Fraud, gallwch hefyd ddewis bod eich manylion yn cael eu rhannu â Chymorth i Ddioddefwyr, sy'n elusen genedlaethol sy'n helpu'r rheini y mae troseddau wedi effeithio arnynt. Os byddwch yn cytuno i'r opsiwn hwn, yna bydd rhywun o'r elusen yn cysylltu â chi ac yn cynnig help ymarferol a chymorth emosiynol cyfrinachol am ddim.

​

Rhoi gwybod am ddigwyddiad seiberddiogelwch

Os ydych yn fusnes, pan fyddwch yn wynebu ymosodiad seiber, neu ddigwyddiad sy'n gysylltiedig â seiberddiogelwch, mae'n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod amdano i swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). O dan reolau'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd, o 25 Mai 2018, mae'n orfodol eich bod hefyd yn rhoi gwybod am unrhyw achosion o dor diogelwch data i'r ICO o fewn 72 awr. Ni fydd Action Fraud, yr Heddlu na'r Ganolfan Seibergadernid yn rhoi gwybod am unrhyw gyswllt rydych wedi'i gael â nhw i'r ICO.

 

Cyngor a chymorth

Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Seibergadernid i gael cyngor a chymorth yn ystod oriau swyddfa arferol drwy ffonio'r rhif isod neu drwy anfon e-bost atom. Rydym hefyd yn darparu cyngor am ddim ar y wefan.

​

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) hefyd wedi creu'r ddogfen Saesneg Small Business Guide to Response and Recovery. Mae'n darparu canllawiau i sefydliadau bach a chanolig ar sut i baratoi eu hymateb a chynllunio eu proses adfer ar ôl digwyddiad seiber.

​

​

bottom of page