top of page
Raleway.png

Telerau ac Amodau

Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru sy'n berchen ar y wefan hon ac mae wedi'i bwriadu i fusnesau yn y Deyrnas Unedig ei defnyddio. Drwy ddefnyddio'r wefan, tybir eich bod cytuno i ddilyn y telerau ac amodau canlynol. Os na hoffech ymrwymo i'r telerau hyn, gadewch y wefan ar unwaith.

​

Mynediad i'n gwefan

1.    Mae mynediad i'n gwefan yn rhad ac am ddim.

2.    Darperir mynediad i'n gwefan “fel y mae” ac ar sail “fel y bo ar gael”.  Mae'n bosibl y byddwn yn newid, atal neu'n rhoi gorau i'n gwefan (neu unrhyw ran ohoni) ar unrhyw adeg a heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi mewn unrhyw ffordd os na fydd ein gwefan (neu unrhyw ran ohoni) ar gael ar unrhyw adeg ac am unrhyw gyfnod o amser.

​

Hawliau Eiddo Deallusol

1.    Mae hawlfraint yr holl gynnwys ar ein gwefan yn eiddo i ni neu wedi'i drwyddedu i ni, oni chaiff ei labelu fel arall yn benodol.

2.    Ni allwch ailgynhyrchu, copïo, dosbarthu, gwerthu, rhentu, is-drwyddedu, storio, nac ailddefnyddio'r cynnwys o'n gwefan mewn unrhyw ffordd arall oni bai eich bod wedi cael caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gennym ni neu, lle y caiff awdur arall ei nodi, gan yr awdur hwnnw, i wneud hynny.

3.    Nid oes unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn sy'n cyfyngu ar ddarpariaethau Pennod III o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988  ‘Gweithredoedd a Ganiateir Mewn Perthynas â Gweithiau Hawlfraint’ nac yn eu heithrio, gan gwmpasu’n benodol y broses o wneud copïau dros dro; ymchwil ac astudiaeth breifat; y broses o wneud copïau at ddibenion dadansoddi testun a data ar gyfer ymchwil nad yw'n ymchwil fasnachol; beirniadaeth, adolygu, dyfynnu a rhoi gwybod am newyddion; gwawdlun, parodi neu glytwaith; a chynnwys deunydd hawlfraint yn achlysurol.

​

Dolenni i'n gwefan

1.    Gallwch greu dolen i'n gwefan ar yr amodau canlynol:

2.    Rydych yn gwneud hynny yn deg a chyfreithlon;

3.    Nid ydych yn gwneud hynny mewn modd sy'n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, ardystiad neu gymeradwyaeth ar ein rhan ni, lle nad ydynt yn bodoli;

4.    Nid ydych yn defnyddio unrhyw logos neu nodau masnach a ddangosir ar ein gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw;

5.    Nid ydych yn gwneud hynny mewn ffordd sydd â'r bwriad o niweidio ein henw da

6.    Yn dynwared unrhyw unigolyn yn gamarweiniol neu'n cam-gyfleu hunaniaeth neu gysylltiad unigolyn penodol fel arall mewn ffordd sy'n bwriadu twyllo (nid yw parodïau amlwg wedi'u cynnwys yn y diffiniad hwn, ar yr amod nad ydynt yn dod o dan unrhyw ddarpariaethau eraill o'r is-Gymal 3.1 hwn);

7.    Awgrymu unrhyw fath o gysylltiad â ni lle nad oes unrhyw gysylltiad yn bodoli;

8.    Yn torri, neu'n cynorthwyo'r gwaith o dorri hawliau eiddo deallusol (yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hawlfraint, nodau masnach a hawliau cronfa data) unrhyw barti arall; neu

9.    Yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n torri unrhyw ddyletswydd gyfreithlon sy'n ddyledus i drydydd parti, yn cynnwys dyletswyddau cytundebol a dyletswyddau hyder, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

​

Dolenni i Wefannau Eraill

1.    Mae'n bosibl y byddwn yn cynnwys dolenni ar ein gwefan i wefannau trydydd parti. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hyn, nid ydym yn cymryd nac yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys gwefannau trydydd parti. Rydym yn cynnwys dolen i wefan arall ar ein gwefan er gwybodaeth yn unig ac nid yw'n awgrymu ein bod yn cymeradwyo'r gwefannau eu hunain na'r rheini sy'n eu rheoli.

 

Ymwadiadau

Nid oes unrhyw beth ar ein gwefan yn gyfystyr â chyngor y dylech ddibynnu arno. Fe'i darperir at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Mae amgylchiadau pawb yn wahanol, a dylech geisio cyngor proffesiynol ynghylch unrhyw gyngor cyffredinol sy'n berthnasol i'ch sefyllfa.

​

I'r graddau y caniateir gan y gyfraith, nid ydym yn honni, yn gwarantu nac yn sicrhau y bydd ein gwefan yn bodloni eich gofynion, ac ni allwn sicrhau na fydd yn torri hawliau trydydd partïon, y bydd yn gydnaws â'r holl feddalwedd a chaledwedd, neu y bydd yn ddiogel.

​

Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod y cynnwys ar ein gwefan yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, nid ydym yn honni, yn gwarantu nac yn sicrhau (p'un a yw hynny’n ddatganedig neu’n oblygedig) bod y cynnwys yn gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol.

 

Ein Hatebolrwydd 

1.    I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod a achosir i ddefnyddiwr, p'un a oedd hynny'n rhagweladwy neu fel arall, mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), ar gyfer torri dyletswydd statudol, neu fel arall, sy’n deillio o'r defnydd o (neu'r anallu i ddefnyddio) ein gwefan neu'r defnydd neu'r ddibyniaeth ar gynnwys sydd wedi'i gynnwys ar ein gwefan, neu'n gysylltiedig â hynny.

2.    I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, rydym yn eithrio pob honiad, gwarant neu sicrwydd (p'un a yw hynny’n ddatganedig neu’n oblygedig) a all fod yn berthnasol i'n gwefan neu unrhyw gynnwys sydd ar ein gwefan.

3.    Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw achos o golli enillion, gwerthiannau, busnes na refeniw; colli cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; colli arbedion disgwyliedig; amharu ar fusnes; nac am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol sy'n deillio o'ch defnydd (neu eich anallu i ddefnyddio) ein gwefan neu ei chynnwys.

4.    Rydym yn arfer pob sgil a gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod ein gwefan yn rhydd rhag feirysau a maleiswedd arall. Nid ydym yn derbyn unrhyw golled na difrod sy'n deillio o feirws neu faleiswedd arall, ymosodiad atal gwasanaeth a ddosbarthwyd, neu unrhyw ddeunydd neu ddigwyddiad niweidiol arall a all gael effaith andwyol ar eich caledwedd, meddalwedd, data neu ddeunyddiau eraill sy'n digwydd o ganlyniad i'ch defnydd o'n gwefan (gan gynnwys lawrlwytho unrhyw gynnwys ohoni) neu unrhyw wefan arall y cyfeirir ati ar ein gwefan.

5.    Nid ydym yn cymryd nac yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd sy'n codi o unrhyw amhariad ar ein gwefan neu achos lle nad yw ar gael o ganlyniad i achosion allanol gan gynnwys methiant cyfarpar ISP, methiant cyfarpar cynnal, methiant rhwydwaith cyfathrebu, digwyddiadau naturiol, gweithredoedd rhyfel, neu gyfyngiadau neu sensoriaeth gyfreithlon, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

6.    Nid oes unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn sy'n eithrio nac yn cyfyngu ar ein hatebolrwydd am dwyll neu gamliwiad twyllodrus, am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod, neu am unrhyw ffurfiau eraill o atebolrwydd na ellir eu heithrio na chyfyngu arnynt yn ôl y gyfraith.

 

Feirysau, Maleiswedd a Diogelwch

1.    Rydym yn arfer pob sgil a gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod ein gwefan yn ddiogel ac yn rhydd rhag feirysau a maleiswedd arall.

2.    Chi sy'n gyfrifol am ddiogelu eich caledwedd, eich meddalwedd, eich data a’ch deunyddiau eraill rhag feirysau, maleiswedd a risgiau diogelwch eraill ar y rhyngrwyd.

3.    Ni ddylech gyflwyno feirysau neu faleiswedd arall, nac unrhyw ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n niweidiol yn dechnolegol i'n gwefan neu drwyddi yn fwriadol.

4.    Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod at unrhyw ran o'n gwefan, y gweinydd lle y caiff ein gwefan ei storio, nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur, na chronfa ddata arall sy'n gysylltiedig â'n gwefan.

5.    Ni ddylech ymosod ar ein gwefan drwy ymosodiad atal gwasanaeth, ymosodiad atal gwasanaeth a ddosbarthwyd, na thrwy unrhyw ddulliau eraill.

6.    Drwy dorri darpariaethau is-Gymalau 7.3 i 7.5, mae'n bosibl y byddwch yn cyflawni tramgwydd troseddol o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Rhoddir gwybod am unrhyw achos o dor cyfraith a phob achos o'r fath i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol, a byddwn yn cydweithio'n llawn â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt. Caiff eich hawl i ddefnyddio ein gwefan ei hatal ar unwaith mewn achos tor cyfraith o'r fath.

​

Polisi Defnydd Derbyniol

1.    Gallwch ond defnyddio ein gwefan mewn modd sy'n gyfreithlon. Yn benodol:

2.    Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n llawn ag unrhyw gyfreithiau a/neu reoliadau lleol, cenedlaethol neu ryngwladol, a phob un ohonynt;

3.    Ni ddylech ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd, neu at unrhyw ddiben, sy'n anghyfreithlon neu'n dwyllodrus;

4.    Ni ddylech ddefnyddio ein gwefan i anfon, lanlwytho neu drosglwyddo data sy'n cynnwys unrhyw fath o feirws neu faleiswedd arall, neu unrhyw god arall sydd wedi'i ddylunio i gael effaith andwyol ar galedwedd, meddalwedd neu ddata o unrhyw fath, yn fwriadol; ac

5.    Ni ddylech ddefnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd, neu at unrhyw ddiben, sydd â'r bwriad o anafu unigolyn neu unigolion mewn unrhyw ffordd.

6.    Rydym yn cadw'r hawl i atal neu derfynu eich mynediad i’n gwefan os byddwch yn mynd ati i dorri darpariaethau’r Cymal 8 hwn, neu unrhyw un o ddarpariaethau eraill y Telerau ac Amodau hyn. Yn benodol, mae'n bosibl y byddwn yn cymryd un neu fwy o'r camau canlynol:

7.    Atal eich hawl i gael mynediad i’n gwefan, boed hynny dros dro neu'n barhaol;

8.    Cyflwyno rhybudd ysgrifenedig i chi;

9.    Codi achos cyfreithiol yn eich erbyn er mwyn ad-dalu unrhyw gostau perthnasol, a phob cost berthnasol, ar sail indemniad o ganlyniad i'ch gweithred a arweiniodd at dor cyfraith.

10. Cymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn fel y bo'n briodol;

11. Datgelu gwybodaeth i awdurdodau gorfodi'r gyfraith yn ôl yr angen neu fel rydym yn ystyried yn hanfodol rhesymol; a/neu

12. Unrhyw gamau eraill sy'n briodol (ac yn gyfreithlon) yn ein barn ni.

13. Drwy hyn, rydym yn eithrio unrhyw atebolrwydd, a phob atebolrwydd, sy'n deillio o unrhyw gamau (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i'r rheini a nodir uchod) y byddwn yn eu cymryd o bosibl mewn ymateb i'r achosion o dorri'r Telerau ac Amodau hyn.

​

Preifatrwydd a Chwcis

Mae'r defnydd o'n gwefan hefyd wedi'i lywodraethu gan ein Polisi Preifatrwydd y gallwch ddod o hyd iddo yma ac sydd, drwy hyn, wedi'i gynnwys yn y Telerau ac Amodau hyn drwy'r cyfeiriad hwn. 

​

Newidiadau i'r Telerau ac Amodau hyn

Gallwn addasu'r Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg. Byddwch yn rhwym i unrhyw newidiadau o'r fath pan fyddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf ar ôl i'r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith. Felly, fe'ch cynghorir i fwrw golwg ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd.

​

Os bydd unrhyw wrthdaro rhwng fersiwn gyfredol y Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw fersiwn/fersiynau blaenorol, y darpariaethau cyfredol a fydd ar waith fydd drechaf oni bai y nodir fel arall yn ddatganedig.

​

Cysylltu â Ni

Os hoffech gysylltu â ni, anfonwch e-bost atom yn enquiries@wcrc.co.uk

​

Y Gyfraith ac Awdurdodaeth

​

Caiff y Telerau ac Amodau hyn, a'r gydberthynas rhyngom ni (boed hynny'n gytundebol neu fel arall) eu llywodraethu a'u llunio yn unol â chyfraith Lloegr a bydd gan lysoedd Lloegr awdurdodaeth neilltuedig dros unrhyw anghydfod sy'n codi mewn perthynas â'r wefan hon neu fater pwnc y telerau ac amodau hyn.

bottom of page