top of page
8.png

Adolygiad o Barhad Busnes Seiber

Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig adolygiad o'ch cynlluniau parhad busnes a chadernid eich sefydliad wrth wynebu ymosodiadau seiber megis meddalwedd wystlo neu pan fydd ymosodwyr yn cymryd rheolaeth o'ch systemau craidd. Rydym yn defnyddio elfennau o'r safon ryngwladol ar gyfer systemau rheoli parhad busnes,  ‘ISO/IEC 22301:2019’ fel model i adolygu eich cynlluniau parhad ac mae'n cynnwys agweddau megis cysylltiadau mewnol ac allanol (cwsmeriaid a'r cyhoedd), amcanion adfer (amser segur y gellir ei oddef, colli gwasanaeth y gellir ei oddef), adfer ar ôl trychineb a phrofion ac ymarferion adfer.

​

Mae adroddiadau'r gwasanaeth yn cynnwys dadansoddiad cynhwysfawr o'r bylchau a'r argymhellion mewn iaith glir yn seiliedig ar eich trefniadau parhad busnes presennol, eich asesiadau effaith, eich dull o reoli risgiau a'ch busnes.

bottom of page