top of page
everyone-is-smiling-listens-group-people

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch

Eich pobl yw eich ased mwyaf mae'n siŵr, a gyda hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch, gallant ddod yn rhwystrau effeithiol iawn i seiberdroseddu. Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch yn canolbwyntio ar wybodaeth syml ac effeithiol er mwyn sicrhau bod pobl yn deall eu hamgylchedd ac yn meithrin yr hyder i herio rhywbeth pan nad yw'n taro deuddeg. Mae’r hyfforddiant yn canolbwyntio ar y rheini nad oes ganddynt fawr ddim gwybodaeth am seiberddiogelwch na thechnoleg, os o gwbl, a chaiff ei ddarparu mewn modiwlau bach a chryno drwy ddefnyddio enghreifftiau bywyd go iawn.

​

Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth wedi'i deilwra i bob cynulleidfa unigol er mwyn darparu'r lefel gywir o sgiliau a chyd-destun ar gyfer eich busnes. Mae'r hyfforddwyr yn wybodus iawn, yn ddymunol ac yn gyfeillgar ac maent yn ymfalchïo yn y gwaith o ddarparu'r amgylchedd cywir er mwyn sicrhau bod eich pobl yn teimlo'n gyfforddus i ofyn cwestiynau.

bottom of page