top of page
6.png

Asesiad Gwendid Ap y We

Asesiad Cam Cyntaf ar y We (FSWA)

​

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio gan ein tîm diogelwch profiadol yn y sector preifat nid yn unig i ddarparu asesiad cychwynnol o’ch gwefan ond hefyd i roi cyfle i’n cnewyllyn o fyfyrwyr seiber ddatblygu eu sgiliau ymhellach o dan reolaeth lem ein tîm goruchwylio.

​

Ystyrir bod yr FSWA yn asesiad cyffyrddiad ysgafn cychwynnol o'r wefan o'i gymharu â'r gwasanaeth Profi App Gwe cyflawn (gweler isod).

​

Mae gwasanaeth FSWA yn canolbwyntio ar y cam rhagchwilio ar gyfer y safle. Rhagchwilio yw'r cam cyntaf y byddai ymosodwr bygythiad yn ei wneud i ganfod safle bregus. Defnyddir technegau rhagchwilio goddefol a gweithredol i asesu'r safle.

 

Fodd bynnag, bydd mwyafrif yr asesiad yn oddefol. Rhagchwilio goddefol yw pan fyddwn yn ceisio cael gwybodaeth am eich gwefan heb ymgysylltu'n weithredol ag ef. Drwy'r cam rhagchwilio, gellir nodi cydrannau hen ffasiwn a datguddiad data sensitif gan amlygu risgiau ychwanegol. 

​

Crëir adroddiad annhechnegol byr i chi ddangos y risg i'r safle a brofwyd a'r mesurau lliniaru yn erbyn meini prawf yr FSWA. Bydd yr adroddiad yn eich galluogi i ystyried y risg ac yn annog trafodaeth bellach gyda datblygwr y safle/darparwr TG/lletywr i gryfhau eich diogelwch ymhellach.

Mae'r FSWA yn bris penodol oherwydd y paramedrau gosodedig a'r amser ar gyfer profi.

 

Rydym yn cynnig hwn am £250, gyda chymhorthdal o £50 ar gyfer busnesau bach a micro-fusnesau ac elusennau.

Mae'r gwasanaeth hwn yn asesu eich gwefan a'ch gwasanaethau ar y we am wendidau. Yn seiliedig ar safonau arfer gorau'r diwydiant, byddwn yn asesu'r 10 prif risg diogelwch i wefannau a cheisio nodi'r gwendidau. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn manteisio ar gudd-wybodaeth gan yr Heddlu rhanbarthol a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol er mwyn casglu gwbodaeth am y bygythiadau a'r technegau mwyaf diweddar a ddefnyddir gan seiberdroseddwyr. Dylid nodi, er nad ydym yn ymyrryd fawr ddim â'ch systemau, mae risg bob amser y bydd systemau nad ydynt wedi cael eu cynnal a'u cadw na'u dylunio'n dda, yn wynebu toriadau i'r cysylltiad yn ystod asesiadau gwendid. Dyna pam mae cynlluniau tynnu'n ôl ac adfer yn ategu asesiadau gwendid ap y we, a chytunir arnynt ymlaen llaw er mwyn lleihau'r risg. Mae'r gwasanaeth hwn yn asesu eich gwefan a'ch gwasanaethau ar y we am wendidau. Bydd adroddiadau'r gwasanaeth yn disgrifio'r hyn y mae pob gwendid yn ei olygu i'ch busnes a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwendidau hynny, a hynny mewn iaith glir. Bydd adroddiadau'r gwasanaeth yn cynnwys cynlluniau a chanllawiau ar sut i drwsio'r gwendidau hynny.

bottom of page