top of page

Canllawiau sy'n ymwneud â'r Gwrthdaro yn Wcráin: Dylai pob sefydliad y DU ddiogelu ei hun rhag bygyt

Wrth i densiynau barhau i gynyddu yn Wcráin, mae Lindy Cameron, Prif Swyddog Gweithredol y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, wedi cynghori pob sefydliad yn y DU i ddiogelu ei hun rhag bygythiadau seiber. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cyhoeddi camau i'w cymryd pan fydd mwy o fygythiad seiber. Efallai y byddwch yn gofyn i chi eich hun beth a wnelo rhyfel 2,000 o filltiroedd i ffwrdd yn nwyrain Ewrop â'ch busnes chi, ond wrth ysgrifennu yn y Sunday Telegraph, cyfeiriodd Lindy at y ffaith nad yw ymosodiadau seiber yn parchu ffiniau daearyddol a bod busnesau yn y DU yn cael eu targedu gan droseddwyr tramor bob dydd. Wrth i'r argyfwng waethygu, rydym yn disgwyl gweld mwy o ymosodiadau seiber gyda busnesau yn y DU hefyd yn cael eu targedu, o bosibl. Er mwyn eich helpu i ddeall y bygythiad a'r camau ymarferol y gallwch eu cymryd i leihau'r risg yn well, gallwch lawrlwytho ein Llyfr Bach o Sgamiau Seiber am ddim.


Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu hefyd wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar sut i wella seibergadernid, gwasanaethau ychwanegol i fusnesau a gwybodaeth am sut i roi gwybod am ddigwyddiadau seiber.

NPCC Letter on bolstering cyber defences
.pdf
Download PDF • 2.92MB

Fel bob amser, os bydd angen unrhyw gymorth arnoch, gallwch gysylltu â ni er mwyn siarad ag aelod o'n tîm.

Darperir cynnwys y wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac ni fwriedir iddo gymryd lle cyngor proffesiynol penodol sy'n berthnasol i'ch sefyllfa. Bwriad Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yw annog cydnerthedd seibr drwy godi materion a lledaenu gwybodaeth am brofiadau a mentrau eraill. Ni all erthyglau ar y wefan yn eu hanfod fod yn gynhwysfawr ac efallai na fyddant yn adlewyrchu deddfwriaeth, arfer neu gymhwysiad diweddaraf i'ch amgylchiadau. Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn darparu gwasanaethau fforddiadwy a Phartneriaid Dibynadwy os oes angen cymorth penodol arnoch. Am gwestiynau penodol, cysylltwch â ni.

Nid yw Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a allai ddeillio o ddibynnu ar wybodaeth neu ddeunyddiau a gyhoeddir yn y ddogfen hon. Nid yw Canolfan Seiber Gydnerth Cymru yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol sy'n cysylltu â'r wefan hon neu sy'n gysylltiedig â hi.

bottom of page