Aelodaeth
Gallwch amddiffyn eich hun yn erbyn y bygythiadau diweddaraf ar-lein drwy ein cynlluniau aelodaeth i fusnesau. Mae partneriaeth y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru â Heddluoedd lleol, Prifysgolion, ein Grŵp Cynghori, Grŵp Arbenigwyr Seiber a'r rhwydwaith busnes ehangach yn golygu bod ein cynlluniau aelodaeth yn cynnig yr arweiniad a'r cymorth gorau i fusnesau o unrhyw faint.
Gadewch i ni ddechrau ar eich taith i ddod yn seibergadarn.
Aelodaeth Graidd
AM DDIM
Yn cynnwys:
Canllawiau'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – Sut y gall sefydliadau ddiogelu eu hunain yn y seiberofod, gan gynnwys y 10 cam i sicrhau seiberddiogelwch gan is-adran Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y Llywodraeth.
Ymarferion Mewn Bocs y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – Adnodd i amlygu eich sefydliad i ymosodiad seiber ffug. Yn debyg i gynnal ymarfer tân. Wedi'i deilwra ar gyfer sefydliadau meintiau gwahanol.
Pecyn Adnoddau Bwrdd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – Adnoddau sydd wedi'u dylunio i annog trafodaethau seiberddiogelwch hanfodol rhwng y Bwrdd a'i arbenigwyr technegol.
E-newyddion – Diweddariadau rheolaidd am seibergadernid sy'n hawdd eu deall sy'n berthnasol i sefydliadau yng Nghymru.
Aelodaeth Gychwynnol i Fusnesau
£500
Yn cynnwys:
Aelodaeth Graidd
Defnydd o logo'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru ar eich gwefan
Cael eich cynnwys ar wefan y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru
Dewis o opsiynau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol
Lle yn y derbyniad blynyddol lle rydym yn clywed gan siaradwyr amlwg am y strategaeth seibergadernid genedlaethol a rhanbarthol
Opsiynau ar gyfer Gwasanaethau Ychwanegol
Gweler isod ein gwasanaethau ychwanegol y gallwch eu cynnwys yn eich pecyn aelodaeth eich hun.
-
Sesiwn ymwybyddiaeth gaeedig hanner diwrnod i'r staff ar eich safle (hyd at 30 o bobl)
-
Sesiwn briffio rhanbarthol bob chwarter ar y bygythiadau presennol gan yr Heddlu
-
Hwb Iechyd Seiber – Holiadur iechyd ac argymhellion i helpu i ddatblygu cadernid yn eich sefydliad.
-
Cael eich cynnwys yn yr e-newyddion
-
Gwahoddiad i'r derbyniad blynyddol
-
Gostyngiad o 10% ar yr holl wasanaethau seiber rydym yn eu cynnig