Mae Canolfan Seibergadernid yn cael ei sefydlu yng Nghymru i fynd i'r afael â seibergadernid ym maes busnes, fel rhan o rwydwaith genedlaethol a arweinir gan yr Heddlu.
Y Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yw'r wythfed ganolfan allan o ddeg sydd wedi'u trefnu yn y DU i ddilyn Model Canolfan Gadernid Business Resilience International Management’s (BRIM)
Penodwyd BRIM yn dilyn proses fanwl o gaffael tendrau yr UE i greu deg Canolfan Seibergadernid mewn partneriaeth â Heddlu'r DU mewn 15 mis er mwyn atal ymosodiadau seiber rhag digwydd mewn busnesau, a helpu sefydliadau y mae achosion o ymosod ar ddata yn effeithio arnynt.
Bydd BRIM yn defnyddio ei raglen sefydlu fodiwlaidd lwyddiannus a'i gymorth rheoli prosiect er mwyn helpu Heddlu'r DU i greu'r Canolfannau yn seiliedig ar y model tebyg a gaiff ei gydnabod am ei lwyddiant yn yr Alban.
Defnyddiwyd y dull yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i greu Canolfannau ym Manceinion Fwyaf, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Swydd Efrog, Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, De Ddwyrain a De Orllewin Lloegr. Roedd Heddlu'r DU yn awyddus i roi'r dull ar waith yn gyflym ac yn eang gan fod cyfradd gweithgareddau troseddol ar-lein a'r bygythiad i fusnesau a sefydliadau'r trydydd sector yn parhau i gynyddu.
Mae Canolfan Seibergadernid yn bwynt cyswllt dynodedig i fusnesau ar gyfer seiberdroseddau ac yn rhoi mynediad i wasanaethau a all eu helpu i gyflawni cadernid seiber. Mae'n trosglwyddo cudd-wybodaeth a gaiff ei chasglu gan dimau arbenigol y Llywodraeth yn gymorth a gwasanaethau busnes cyfeillgar a hygyrch.
Felly, mae'r Ganolfan Seibergadernid yn hwb adnoddau sy'n gwella hyder busnesau yng ngallu'r heddlu i ddelio â seiberdroseddau, gan annog mwy o bobl i adrodd amdanynt a chydweithredu.
Mae Canolfan Seibergadernid yn bwynt canolog i'r heddlu ganolbwyntio ar adnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd er mwyn helpu i atal seiberdroseddau a delio â seiberdroseddau. Mewn amgylchedd sy'n parhau i ddatblygu'n ddigidol, mae modelau'r Ganolfan Seibergadernid hefyd yn rhoi mynediad i'r heddlu i sgiliau seiber datblygedig, lefel uchel, mewn ffordd fforddiadwy, gan gydweithio â myfyrwyr Hacio Moesegol mewn prifysgolion blaenllaw.
Bydd y model yn cwmpasu tair elfen wahanol, gan gynnwys:
Strwythur a'r dull o lywodraethu bwrdd fel sefydliad annibynnol gan gyfuno'r heddlu, academyddion a busnesau
Darparu gwasanaethau masnachol gan gydweithio'n uniongyrchol â phrifysgolion rhanbarthol a myfyrwyr byw
Cydweithio'n uniongyrchol â'r model plismona seiber er mwyn helpu busnesau i fod yn rhan o'r modelau hyn
Bydd IASME, sy'n darparu'r model Cyber Essentials a ffefrir ledled y DU hefyd yn chwarae rhan weithredol yn y dull o roi'r contract hwn ar waith. IASME yw unig Bartner Cynllun Cyber Essentials y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ers mis Ebrill 2020.
Comentários