top of page
Big Pit .png

Aelodau Cenedlaethol

Rydym wrth ein bodd bod y sefydliadau isod yn Aelodau Cenedlaethol o Ganolfannau Seibergadernid y DU. Drwy gefnogi a datblygu gwaith y Canolfannau, mae ein Haelodau Cenedlaethol yn gwella'r gwaith o ddiogelu'r gadwyn gyflenwi genedlaethol a busnesau llai o faint, yn ogystal â datblygu cronfa o dalent fedrus iawn yn y DU.

Aelodaeth Graidd

AM DDIM

Yn cynnwys: 

​

Canllawiau'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – Sut y gall sefydliadau ddiogelu eu hunain yn y seiberofod, gan gynnwys y 10 cam i sicrhau seiberddiogelwch gan is-adran Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y Llywodraeth.

 

 

Ymarferion Mewn Bocs y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol – Adnodd i amlygu eich sefydliad i ymosodiad seiber ffug. Yn debyg i gynnal ymarfer tân. Wedi'i deilwra ar gyfer sefydliadau meintiau gwahanol.

 

 

Pecyn Adnoddau Bwrdd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol  – Adnoddau sydd wedi'u dylunio i annog trafodaethau seiberddiogelwch hanfodol rhwng y Bwrdd a'i arbenigwyr technegol.

 

 

E-newyddion – Diweddariadau rheolaidd am seibergadernid sy'n hawdd eu deall sy'n berthnasol i sefydliadau yng Nghymru.

bottom of page